Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:   Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y Memoranda Esboniadol a’r Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Offerynnau Statudol a osodir yn ddwyieithog gerbron y Senedd. Mae Rheol Sefydlog 15.4 o’r Senedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob dogfen gael ei gosod yn ddwyieithog cyn belled ag y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, ac mae Safon 47 o Safonau’r Gymraeg (y dyletswyddau statudol a osodir ar Weinidogion Cymru gan Gomisiynydd y Gymraeg) yn ei gwneud yn ofynnol inni ystyried y pwnc a’r gynulleidfa a ragwelir ar gyfer dogfennau penodol wrth flaenoriaethu eu cyfieithu. Yn unol â chanllawiau a ddarparwyd gan swyddfa’r Comisiynydd (yn y Cod Ymarfer i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015), wrth flaenoriaethu pa ddogfennau i’w cyfieithu ar yr adeg hon, gwnaethom ystyried materion megis a oedd y Rheoliadau yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar y Gymraeg yn uniongyrchol, a oedd y Rheoliadau o ddiddordeb mawr i grwpiau o siaradwyr Cymraeg yn benodol, ac a fyddai cyfran uchel o gynulleidfa’r dogfennau yn siarad Cymraeg. Gan fod y Rheoliadau hyn yn berthnasol yn bennaf i bobl o'r tu allan i'r DU, ac yn annhebygol o effeithio ar siaradwyr Cymraeg, nid ydynt wedi cael eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer cyfieithu ar hyn o bryd. 

Byddy Pwyllgor yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru  yn llunio memoranda esboniadol i is-ddeddfwriaeth Cymru yn ddwyieithog wrth symud ymlaen, fel y cadarnhawyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn  llythyr Llywodraeth Cymru ar 13 Ionawr 2023.